Suo Gân
SATB with Soprano Solo, 3’45”
Huna blentyn ar fy mynwes,
Clyd a chynnes ydyw hon;
Breichiau mam sy’n dynn amdanat,
Cariad mam sy dan fy mron;
Ni chaiff dim amharu’th gyntun,
Ni wna undyn â thi gam;
Huna’n dawel, annwyl blentyn,
Huna’n fwyn ar fron dy fam.Huna’n dawel, heno, huna,
Huna’n fwyn, y tlws ei lun;
Pam yr wyt yn awr yn gwenu,
Gwenu’n dirion yn dy hun?
Ai angylion fry sy’n gwenu,
Arnat ti yn gwenu’n llon,
Tithau’n gwenu’n ôl dan huno,
Huno’n dawel ar fy mron?Paid ag ofni, dim ond deilen
Gura, gura ar y ddôr;
Paid ag ofni, ton fach unig
Sua, sua ar lan y môr;
Huna blentyn, nid oes yma
Ddim i roddi iti fraw;
Gwena’n dawel yn fy mynwes,
Ar yr engyl gwynion draw.Robert Bryan (1858-1920)
The text of this Welsh lullaby evokes images of a mother singing her child to sleep, making it suitable for the Christmas season. This arrangement especially dedicated to Jia.
First performance and recording by Basement Bunch, 21 Dec 2019
This work is published by Muziksea.